Tregolwyn
Oddi ar Wicipedia
Tregolwyn Bro Morgannwg |
|
Pentref ym Mro Morgannwg, de Cymru, yw Tregolwyn (Saesneg: Colwinston). Gorwedd i'r dwyrain o Ben-y-bont ar Ogwr, tua hanner ffordd rhwng y dref honno a'r Bont-faen.
Mae Eglwys Sant Fihangel a'r Holl Saint yn y pentref yn adeilad cofrestedig Graddfa 1 sy'n dyddio i'r Oesoedd Canol. Gerllaw ceir ysgol gynradd Dewi Sant a Neuadd y Pentref.
Mae gan Dregolwyn ei gyngor cymuned ei hun sy'n ethol un ar ddeg o aelodau. Roedd gan y pentref boblogaeth o tua 400 yn 2005.
Roedd y nofelwraig enwog Agatha Christie yn arfer ymweld â'r pentref yn aml ac mae rhai o'i disgynyddion yn dal i fyw yno.
Trefi a phentrefi Bro Morgannwg |
Aberogwr | Aberddawan | Aberthin | Y Barri | Y Bont-faen | City | Corntwn | Dinas Powys | Eglwys Fair y Mynydd | Ewenni | Ffont-y-gari | Gwenfô | Larnog | Llanbedr-y-fro | Llancarfan | Llancatal | Llandochau | Llandochau Fach | Llandŵ | Llanddunwyd | Llan-faes | Llanfair | Llanfihangel-y-pwll | Llanfleiddan | Llangan | Llansanwyr | Llanilltud Fawr | Llwyneliddon | Llyswyrny | Marcroes | Ogwr | Penarth | Pendeulwyn | Pen-llin | Pennon | Pen-marc | Y Rhws | Sain Dunwyd | Saint Andras | Sain Nicolas | Saint-y-brid | Senghennydd | Y Sili | Silstwn | Southerndown | Trebefered | Trefflemin | Tregatwg | Tregolwyn | Tresimwn | Y Wig | Ystradowen |