Sain Dunwyd
Oddi ar Wicipedia
Pentref a chymuned ger arfordir Bro Morgannwg, de Cymru, yw Sain Dunwyd (Saesneg: St Donat's neu English St Donat's).
Fe'i gelwir weithiau yn English St Donat's am fod eglwys arall gysegredig i Sant Dunwyd yn y Fro, sef Llanddunwyd (Welsh St Donat's), ger Y Bont-faen. Roedd Dunwyd yn gyfaill i Sant Cadog.
Lleolir y pentref fymryn i'r gorllewin o dref fechan Llanilltud Fawr. Mae plwyf Sain Dunwyd yn cynnwys pentref Marcroes (Marcross).
Codwyd Castell Sain Dunwyd gan y teulu De Hawey yn y 12fed ganrif, ar fryn ger y pentref. Heddiw mae'n gartref i Goleg yr Iwerydd (Atlantic College), sy'n ysgol breswyl ryngwladol.
Trefi a phentrefi Bro Morgannwg |
Aberogwr | Aberddawan | Aberthin | Y Barri | Y Bont-faen | City | Corntwn | Dinas Powys | Eglwys Fair y Mynydd | Ewenni | Ffont-y-gari | Gwenfô | Larnog | Llanbedr-y-fro | Llancarfan | Llancatal | Llandochau | Llandochau Fach | Llandŵ | Llanddunwyd | Llan-faes | Llanfair | Llanfihangel-y-pwll | Llanfleiddan | Llangan | Llansanwyr | Llanilltud Fawr | Llwyneliddon | Llyswyrny | Marcroes | Ogwr | Penarth | Pendeulwyn | Pen-llin | Pennon | Pen-marc | Y Rhws | Sain Dunwyd | Saint Andras | Sain Nicolas | Saint-y-brid | Senghennydd | Y Sili | Silstwn | Southerndown | Trebefered | Trefflemin | Tregatwg | Tregolwyn | Tresimwn | Y Wig | Ystradowen |