Pennon
Oddi ar Wicipedia
Pentref bychan ym mhlwyf Llancarfan, Bro Morgannwg, de Cymru, yw Pennon (gwelir y ffurf Pen-onn weithiau, ond nid coed onn sydd yn yr elfen olaf). Gorwedd rhwng Llancarfan i'r gogledd a'r Rhws i'r de, tua 4 milltir i'r gogledd-orllewin o'r Barri.
Ganwyd yr hynafiaethydd, bardd a ffugiwr llenyddol Iolo Morganwg (Edward Williams) yn y pentref yng ngwanwyn 1747 (1746 yn ôl yr hen galendr), ond symudodd ei rieni i fyw yn Nhrefflemin o fewn ychydig o flynyddoedd ar ôl hynny (mae'r union ddyddiad yn ansicr).
Trefi a phentrefi Bro Morgannwg |
Aberogwr | Aberddawan | Aberthin | Y Barri | Y Bont-faen | City | Corntwn | Dinas Powys | Eglwys Fair y Mynydd | Ewenni | Ffont-y-gari | Gwenfô | Larnog | Llanbedr-y-fro | Llancarfan | Llancatal | Llandochau | Llandochau Fach | Llandŵ | Llanddunwyd | Llan-faes | Llanfair | Llanfihangel-y-pwll | Llanfleiddan | Llangan | Llansanwyr | Llanilltud Fawr | Llwyneliddon | Llyswyrny | Marcroes | Ogwr | Penarth | Pendeulwyn | Pen-llin | Pennon | Pen-marc | Y Rhws | Sain Dunwyd | Saint Andras | Sain Nicolas | Saint-y-brid | Senghennydd | Y Sili | Silstwn | Southerndown | Trebefered | Trefflemin | Tregatwg | Tregolwyn | Tresimwn | Y Wig | Ystradowen |