City
Oddi ar Wicipedia
- Gweler hefyd Dinas (gwahaniaethu).
Pentref bychan tua 3 milltir i'r gogledd o'r Bont-faen ym Mro Morgannwg, de Cymru, yw City (ni cheir ffurf Gymraeg ar yr enw).[1]
Mae tarddiad ac ystyr yr enw lle "City" yn ansicr. Yn amlwg nid yw'n air Cymraeg yn y ffurf honno ond fe allai fod yn ffurf Seisnig ar enw Cymraeg sydd bellach yn anhysbys. Yn ôl rhai trigolion lleol mae'n llygriad o "Saith tŷ" ond ymddengys hynny'n anhebygol. Ond ceir yr hen air Cymraeg cyty, sy'n golygu "cydbreswylio, cymdeithas dan yr un to; tŷ a rennir ag eraill; tŷ dan yr unto,"[2] ac mae'n bosibl mai dyna a geir yn yr enw 'City'. Boed hynny fel y bo, ni cheir enw Cymraeg cydnabyddedig ar y pentref.
Does dim siopau yn City heddiw. Bu yno dafarn y City Inn ond mae wedi cau rwan. Ceir neuadd pentref.
[golygu] Cyfeiriadau
- ↑ Geiriadur enwau lleoedd Canolfan Bedwyr
- ↑ Geiriadur Prifysgol Cymru, cyf. 1, tud. 825. Ni nodir enghraifft o'r enw lle.
Trefi a phentrefi Bro Morgannwg |
Aberogwr | Aberddawan | Aberthin | Y Barri | Y Bont-faen | City | Corntwn | Dinas Powys | Eglwys Fair y Mynydd | Ewenni | Ffont-y-gari | Gwenfô | Larnog | Llanbedr-y-fro | Llancarfan | Llancatal | Llandochau | Llandochau Fach | Llandŵ | Llanddunwyd | Llan-faes | Llanfair | Llanfihangel-y-pwll | Llanfleiddan | Llangan | Llansanwyr | Llanilltud Fawr | Llwyneliddon | Llyswyrny | Marcroes | Ogwr | Penarth | Pendeulwyn | Pen-llin | Pennon | Pen-marc | Y Rhws | Sain Dunwyd | Saint Andras | Sain Nicolas | Saint-y-brid | Senghennydd | Y Sili | Silstwn | Southerndown | Trebefered | Trefflemin | Tregatwg | Tregolwyn | Tresimwn | Y Wig | Ystradowen |