Llancarfan
Oddi ar Wicipedia
Llancarfan Bro Morgannwg |
|
Pentref a phlwyf sy'n gorwedd rhwng Y Bont-faen a'r Barri ym Mro Morgannwg yw Llancarfan. Ganwyd yr hynafiaethydd a llenor Iolo Morganwg ym mhentref Pennon yn y plwyf.
[golygu] Clas Llancarfan
Roedd Llancarfan yn adnabyddus yn y Gymru gynnar am ei glas (ar safle eglwys Llancarfan heddiw) neu fynachlog gynnar a sefydlwyd gan Sant Cadog yn y 6ed ganrif. Ceir carreg ag arni arysgrif Ladin o'r 11eg ganrif neu ddechrau'r ganrif olynnol yn yr eglwys. Yn ôl traddodiad, cedwid llyfr efengylau Gildas yma. Yma hefyd yr ysgrifenwyd Buchedd Sant Cadog yn Lladin gan y mynach Lifris ac ymddengys y bu'n ganolfan dysg bwysig yn yr Oesoedd Canol Cynnar. Yr enwocaf o lenorion mynachaidd Llancarfan yw Caradog o Lancarfan (fl. 1135), awdur nifer o fucheddau saint. Awgrymwyd o gyfnod y Dadeni ymlaen mai ef a ysgrifennodd Llyfr Llandaf a fersiwn gynharaf Brut y Tywysogion, ond diweddar yw'r traddodiadau hyn ac yn achos y Brut gwyddys bellach ei fod yn ffrwyth sawl awdur a chanolfan yn hytrach na gwaith unigolyn.
Cofnodir anrheithio'r clas gan fôr-ladron Llychlynaidd yn y flwyddyn 988, yn ôl yr Annales Cambriae. Pan feddianwyd Morgannwg gan y Normaniaid rhoddwyd Llancarfan i fynachlog Pedr Sant yng Nghaerloyw a darfu am y clas Cymreig.
Y gorffennol disglair hwn a barodd i Iolo Morgannwg lunio rhai o'i ffugiadau enwocaf sy'n rhoi ffug hanes Sant Cadog a'i fynachlog.
[golygu] Dolenni
- (Saesneg) Gwefan y pentref
- (Saesneg) Eglwys Llancarfan
Trefi a phentrefi Bro Morgannwg |
Aberogwr | Aberddawan | Aberthin | Y Barri | Y Bont-faen | City | Corntwn | Dinas Powys | Eglwys Fair y Mynydd | Ewenni | Ffont-y-gari | Gwenfô | Larnog | Llanbedr-y-fro | Llancarfan | Llancatal | Llandochau | Llandochau Fach | Llandŵ | Llanddunwyd | Llan-faes | Llanfair | Llanfihangel-y-pwll | Llanfleiddan | Llangan | Llansanwyr | Llanilltud Fawr | Llwyneliddon | Llyswyrny | Marcroes | Ogwr | Penarth | Pendeulwyn | Pen-llin | Pennon | Pen-marc | Y Rhws | Sain Dunwyd | Saint Andras | Sain Nicolas | Saint-y-brid | Senghennydd | Y Sili | Silstwn | Southerndown | Trebefered | Trefflemin | Tregatwg | Tregolwyn | Tresimwn | Y Wig | Ystradowen |