Tongwynlais
Oddi ar Wicipedia
Mae Tongwynlais yn bentref mawr yn Ne Cymru. Mae'n gorwedd o fewn cyffiniau ward etholaeth Eglwys Newydd & Tongwynlais yng Nghaerdydd.
Mae'n hawdd cyrraedd y pentref ar y ffyrdd gan ei fod ger Cyffordd 32 o draffordd yr M4 a'r A470. Mae'r draffordd yn gwahanu'r pentref o ddinas Caerdydd, mae'r pentref i bob pwrpas yn faesdref o'r brifddinas. Ei adeilad mwyaf nodweddiadol yw'r castell Fictorianaidd, Castell Coch.
Mae'r band RocketGoldStar wedi ysgrifennu cân am y pentref ac fe'i recordwyd hi ar gyfer sesiwn BBC Radio 1 yn Maidavale. Gellir lawrlwytho'r gân am ddim [1].
Mae'n gartref i Ysgol Gynradd Tongwynlais.
[golygu] Dolen allanol
- (Saesneg) Tongwynlais ar wefan GENUKI