Castell Coch
Oddi ar Wicipedia
Mae Castell Coch (Castell y Tylwyth Teg) yn gastell a saif uwchben pentref Tongwynlais, ger Nantgarw, i'r gogledd o Gaerdydd.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Y castell canoloesol
Mae'n debyg i gastell gael ei sefydlu ar safle'r castell presennol yn gynnar yn y drydedd ganrif ar ddeg gan Ifor Bach. Cafodd y safle ei hawlio gan y teulu De Clare Normanaidd yn hwyrach yn y ganrif honno oherwydd ei bwysigrwydd strategol. Edrychai dros wastadeddau'r ardal yn ogystal â'r ffordd i mewn i Ddyffryn Taf. Ailadeiladwyd y castell i gynnwys gorthwr, tyrau, baurt gaëedig a phorthdy.
[golygu] Y castell ffantasi
Erbyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ychydig iawn oedd ar ôl o'r bensaernïaeth Normanaidd. Cafodd ei ailadeiladu gan Drydydd Ardalydd Bute, John Crichton-Stuart, mewn arddull hynafol er mwyn ei ddefnyddio fel cartref i'w deulu. Cyflogodd y pensaer William Burges i gynllunio a chodi'r castell. Canlyniad y gwaith ailgodi oedd castell ffantasi. Mae'r addurno y tu fewn yn debyg i'r hyn yr oedd Burges eisoes wedi cyflawni yng Castell Caerdydd. Gofalodd Burges i fanteisio cymaint â phosibl ar yr hyn oedd ar ôl o'r castell gwreiddiol a gynlluniwyd gan y teulu De Clare.
Er gwaethaf y tebygrwydd rhwng y castell gwreiddiol a'r castell cyfredol a'r ffaith i freuddwyd Burges gael ei wireddu, roedd y castell yn rhy fach ac yn rhy anodd i'w gyrraedd i'r teulu fedru ei ddefnyddio'n helaeth ac fe'i defnyddid fel llety arall yn lle fel prif gartref i'r teulu.
[golygu] Y castell heddiw
Mae Cadw bellach yn gofalu am y castell ac mae'n atyniad twristaidd gweddol boblogaidd. Mae'n cael ei ddefnyddio mewn cyfresi teledu a ffilmiau ar adegau hefyd.