Thomas Jones (Tudno)
Oddi ar Wicipedia
- Gweler hefyd Tudno (gwahaniaethu)
Llenor, bardd, newyddiadurwr ac offeiriad oedd Thomas Jones neu Tudno (28 Ebrill, 1844 - 8 Mai, 1895), a aned yn Llandudno, yn yr hen Sir Gaernarfon (Conwy heddiw).
Ei athrawon barddol oedd Creuddynfab, Richard Parry (Gwalchmai) ac Elis Wyn o Wyrfai.
Yn ystod ei yrfa fel newyddiadurwr gofalodd am y Llandudno Directory lleol ac yn ddiweddarach ymunodd â bwrdd golygyddol y Carnarvon and Denbigh Herald ac ymsefydlu yng Nghaernarfon. Symudodd i weithio ar y cylchgrawn Y Llais ym Mamgor a daeth yn adnabyddus am ei ysgrifau doniol dan y pennawd Dyddlyfr Dafydd Davies.
Aeth yn offeiriad yn 1883 a gwasanaethai mewn sawl tref ledled gogledd Cymru, gan gynnwys Llanrwst. Roedd yn eisteddfodwr mawr ac enillodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bangor 1890 am ei awdl "Y Llafurwr". Cyfieithiodd waith Thomas Gray a chyfansoddodd gerdd arwrol i Owain Glyndŵr. Dyma ddarn ohono:
- Wladgarwyr dewr dadweiniwch gledd --
- Ymladdwch wrth ei garn;
- A gwaed eich bron cysegrwch fedd
- Cyn bod i Drais yn sarn.
Bu farw yn ganol oed yn 1895, tra yn ei Landudno annwyl. Fe'i claddwyd ym mynwent Eglwys Tudno, ar lethrau'r Gogarth uwchben y môr.
[golygu] Llyfryddiaeth
- David Rowlands (gol.), Telyn Tudno (Hughes a'i Fab, Wrecsam, 1897). Casgliad o'i gerddi sy'n cynnwys bywgraffiad diddorol gan ei hen gyfaill Rowlands (Dewi Môn).