Talacharn
Oddi ar Wicipedia
Talacharn Sir Gaerfyrddin |
|
- Am y cwmwd canoloesol o'r un enw, gweler Talacharn (cwmwd).
Tref yn Sir Gaerfyrddin yw Talacharn neu Lacharn (Saesneg: Laugharne). Mae'n fwyaf enwog fel y lle y treuliodd Dylan Thomas lawer o amser tua diwedd ei oes, ac mae'r Boathouse lle roedd yn ysgrifennu yn fyd enwog. Roedd ei gartref cyntaf yn Gosport Street ac yna symudodd i Siew View.
Yma roedd tŷ Madam Bevan a gysylltir ag Ysgolion Cylchynol Griffith Jones Llanddowror. Safai rhwng Neuadd y Dref a Cliff Chapel ond fe'i tynnwyd i lawr ym 1859. Yn y tŷ hwn y bu Griffith Jones farw ym 1761.
Codwyd castell yma gan Rhys ap Gruffudd yn y ddeuddegfed ganrif. Dim ond dau dŵr sydd yn aros erbyn heddiw o Gastell Talacharn
Ym 1307 rhoddodd y Normaniaid siarter i'r dref, sydd mewn grym hyd heddiw. Fel mewn llawer o drefi a oresgynwyd gan y Normaniaid ac sydd wedi parhau'n Seisnig hyd heddiw, does fawr o Gymraeg i'w chlywed yn Nhalacharn.