Griffith Jones
Oddi ar Wicipedia
Sylfaenydd yr Ysgolion Cylchynol Cymreig oedd Griffith Jones 1683 - 1761, a adnabyddir gan amlaf fel Griffith Jones, Llanddowror.
Yn dod yn wreiddiol o Ben-Boyr, Sir Gaerfyrddin, cafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Caerfyrddin ac wedyn ei ordeinio yn 1708. Yn 1716 cafodd rheithoriaeth ym mhentref Llanddowror, hefyd yn Sir Gaerfyrdddin. Roedd yn aelod brwdfrydig o'r Gymdeithas er Taenu Gwybodaeth Gristnogol.
Yn 1731 dechreuodd y cyntaf o'i ysgolion cylchynol enwog. Roedd yr ysgolion mewn un man am ryw dri mis, fel arfer yn y gaeaf pan oedd amser gan y ffermwyr i fynychu'r ysgol. Roedd yr ysgol yn dysgu plant ac oedolion i ddarllen y Beibl Cymraeg ac i adrodd catecism Eglwys Loegr. Erbyn iddo farw roedd tair mil o ysgolion wedi cael eu sefydlu mewn 1600 o leoedd a Chymru'n mwynhau'r lefel llythrenedd gorau yn y byd.
Mae'n werth nodi nad oedd wedi bod yng Nghymru unrhyw fath o gyfundrefn addysg yn Gymraeg cyn hynny ers diddymiad y mynachlogydd.
[golygu] Darllen pellach
- Gwyn Davies, Griffith Jones, Llanddowror, Athro Cenedl (1984)
- Geraint H. Jenkins, Hen filwr dros Grist (1983)
- R. T. Jenkins, Griffith Jones, Llanddowror (1930)
- D. Ambrose Jones, Griffith Jones, Llanddowror (Hughes a'i Fab, Wrecsam, 1923). 'Cyfres Arweinwyr Cymru' I. Arolwg cynhwysfawr o'i waith a'i fywyd.