Rockies
Oddi ar Wicipedia
Mynyddoedd sy'n ymestyn ar hyd ochr orllewinol Gogledd America yw'r Rockies neu Rocky Mountains. Maent yn ymestyn am dros 4,800 km (3,000 o filltiroedd) o ran ogleddol British Columbia, Canada, hyd New Mexico yn yr Unol Daleithiau. Y mynydd uchaf yw Mount Elbert, Colorado, sy'n 4,401 m (14,440 troedfedd) o uchder. I'r dwyrain o'r Rockies mae'r Gwastadeddau Mawr.