Robert Boyle
Oddi ar Wicipedia
Yr oedd Syr Robert Boyle (25 Ionawr, 1627 - 30 Rhagfyr, 1691) yn ffisegydd a chemegydd o Sais.
Ganwyd Robert Boyle yn seithfed fab i Iarll Cyntaf Cork. Cafodd ei addysg yn Eton. Ar ôl cyfnod o deithio tramor aeth i fyw yn Stalbridge, Dorset, ac ar ôl hynny symudodd i fyw yn Rhydychen.
Yn Rhydychen gwnaeth gyfres o arbrofion ar natur a chyfansoddiad awyr. Ffrwyth yr ymchwil honno oedd pwmp awyr gwell a'r ddeddf wyddonol enwog sy'n dwyn ei enw, sef Deddf Boyle. Roedd yn aelod o grŵp o philosophyddion natur a sefydlodd y Gymdeithas Frenhinol yn 1663; dewiswyd Boyle yn llywydd y gymdeithas yn 1680 ond gwrthododd yr anrhydedd. Boyle oedd y cyntaf i adnabod gwir natur elfen ac i wahaniaethu rhwng compownd a chymysgfa.
Mae Darlithiau Boyle yn gyfres flynyddol o wyth ddarlith, a sefydlwyd gan Boyle ac a ariannir o'i etifeddiaeth, sy'n amddiffyn Cristnogaeth.