Rajiv Gandhi
Oddi ar Wicipedia
Roedd Rajiv Ratna Gandhi (20 Awst 1944 - 21 Mai, 1991) yn wleidydd o Indiad a fu'n brif weinidog ei wlad o 1984 hyd ei farwolaeth yn 1991.
[golygu] Bywyd cynnar
Roedd Rajiv Gandhi yn fab hynaf Indira Gandhi (1917 - 1984), hithau'n brif weinidog India, ac yn ŵyr i Jawaharlal Nehru, prif weinidog cyntaf y wlad yn 1947. Cafodd ei addysg mewn ysgol breifat yn Dehra Dun ym mryniau'r Himalaya ac ym Mhrifysgol Caergrawnt, lle methodd gael gradd mewn peirianaeth.
[golygu] Gyrfa wleidyddol
Yn 1968 priododd yr Eidalwraig Sonia Maino. Doedd ganddo ddim llawer o ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth a chymerodd swydd fel peilot sifil i Indian Airlines. Ond yn sgîl marwolaeth ei frawd Sanjiv mewn damwain awyren bu rhaid iddo lenwi ei le fel darpar arweinydd Congress.
Enillodd sedd yn senedd India trwy gipio sedd seneddol ei frawd yn Amethi yn 1981 a chafodd ei apwyntio'n ysgrifenydd cyffredinol Congress yn 1983.
Yn sgîl llofruddiaeth ei fam yn 1984 fe'i penodwyd yn brif weinidog India. Llwyddodd i sicrhau mwyafrif ysgubol i Congress yn yr etholiad cyffredinol y flwyddyn ar ôl hynny ac am gyfnod cafwyd cyfnod llewyrchus. Ond roedd wedi addo glanhau ei blaid o lwgrwobrwyaeth a chafodd anawsterau mawr y tu mewn ac y tu allan i'w blaid wrth geisio gwneud hynny. Y canlyniad fu i Congress golli'r etholiad yn Nhachwedd 1989.
Cafodd Rajiv ei lofruddio gan derfysgwraig Damil ar 21 Mai, 1991, tra'n canfasio ar ran Congress yn ne India. Mae ei wraig Sonia yn arwain y blaid heddiw.