Punjabi
Oddi ar Wicipedia
Iaith Indo-Ewropeaidd a siaradir yn rhanbarth ddaearyddol Punjab ar is-gyfandir India yw Punjabi (neu Panjabi). Mae'n perthyn i is-deulu'r ieithoedd Indo-Iraneg ac yn agos iawn i Wrdw.
Cadarnle'r Punjabi yw talaith y Punjab yn India a thalaith y Punjab ym Mhacistan. Ceir yn ogystal nifer o siaradwyr Punjabi yn nhaleithiau Rajasthan ac Uttar Pradesh. Mae'n iaith swyddogol talaith Punjab India.
Yn nhermau daearyddiaeth ieithyddol, mae'r iaith yn ffinio â'r ieithoedd Lahnda i'r gogledd (Jammu a Kashmir), Rajastani i'r de, Hindi i'r dwyrain a Pahari Orllewinol a Dardeg i'r gogledd-ddwyrain.
Yn niwylliannol mae gan yr iaith Punjabi gysylltiad cryf â chrefydd Siciaeth, a sefydlwyd ar ddiwedd y 15fed ganrif. Dyfeisiwyd yr wyddor Gurmukhi, seiliedig ar Nagari (gwyddor Hindi ac ieithoedd eraill). Cyn y 19eg ganrif, Perseg ac Wrdw oedd ieithoedd llenyddol y Punjab, ond gyda thyfiant ymwybyddiaeth gymunedol y Siciaid daethpwyd i ddefnyddio'r iaith lafar fwyfwy fel cyfrwng llenyddol ac erbyn heddiw mae llenyddiaeth Punjabi wedi hen ennill ei phlwyf.
[golygu] Geiriaduron ar-lein
- Punjabi Dictionary Geiriadur Punjabi - Saesneg
- ijunoon Geiriadur Punjabi - Saesneg
- Punjabdictionary Geiriadur Punjabi - Saesneg