See also ebooksgratis.com: no banners, no cookies, totally FREE.

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Pete Fowler - Wicipedia

Pete Fowler

Oddi ar Wicipedia

Darlunwaith Peter ar glawr CD Super Furry Animals, Rings Around The World.
Darlunwaith Peter ar glawr CD Super Furry Animals, Rings Around The World.

Darlunudd Cymreig yn enedigol o Gaerdydd yw Pete Fowler (Ganed 1969). Adnabyddir ef drwy Super Furry Animals. Mae'n ddarlunudd llawrydd sy'n creu bwystfiloedd, wedi ei ysbrydoli gan Arlunio Siapaneaidd. Mae wedi gweithio ar sawl cywaith yn y DU ac yn Siapan, megis hysbysebion teledu (Kia Picanto), ac arddangosfeydd arlunio drost y byd. Mae'n gweithio drwy amryw o gyfryngau, gan gynnwys darlunio, paentio, animeiddio a cherfluniaeth.

Mae arlunwaith Pete Fowler mewn arddull cartŵn ôl-fodern (tebyg i arlunwyr megis Takashi Murakami a David Lebatard). Canolir ei arlunwaith ogwmpas adroddiant sy'n cynnwys set o gymeriadau sy'n ail-ymddangos drwy'r gwaith. Mae'r bwystfiloedd a greir i gyd yn byw ar Monsterism Island (Cymraeg: Ynys Bwystfilaidd). Mae Fowler yn dychmygu storïau cefndirol eang ar gyfer ei gymeriadau, mae gan pob un ei nodweddion unigryw a lefelau o "monsterism". Mae Fowler yn enwog am ei degannau dylunwyr o'i gymeriadau, mae'n creu rhain gyda'i gwmni ei hun.

Rhyddhawyd CD, The Sounds of Monsterism Island yn 2005 gan Heavenly Records. Yn ôl datganiad i'r wasg:

(Saesneg) "The record is a compilation album that works as a soundtrack to the world of Monsterism...The album features psychedelic music from the '60s through to today, much of it unearthed and put on CD for the first time."

Yn 2006, creodd Pete Fowler gyfres o gomigs am yr Monsterism Island sydd wedi cael eu cyhoeddi yng nghylchrawn Vice. Mae gwefan Fowler yn cynnwys cyfresi o animeiddio Flash byr o'i gymeriadau, ac mae Fowler wedi datgan ei fod yn gweithio ar gyfres o ffilmiau byrion.

Bydd ail crynoddisg Monsterism Island yn cael ei ryddhau ar label recordiau Poptones yn 2007.

[golygu] Dolenni Allanol

Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Ieithoedd eraill


aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -