Cartŵn
Oddi ar Wicipedia
Gall cartŵn faod yn un o sawl dull darlunio. Mae sawl dehongliad o'i ystyr sydd wedi tarddu o'r ystyr gwreiddiol. Mae cartŵn (o'r Eidaleg cartone a'r gair Iseldireg/Flandrys "karton", yn golygu cryf, papur neu gerdyn trwm) yn ddarlun maint llawn a wneir ar papur fel sail astudiaethau pellach megis paentio neu bwythwaith. Defnyddwyd cartwnau yn aml yn y broses o greu fresco, i gysylltu yn fanwl gywir, pob rhan o'r cyfansoddiad pan baentiwyd ar blastr drost gyfnod o ddyddiau. Mae gan y cartwnau rhain yn aml, nifer o dyllau pin ynddynt ble defnyddyd hi i amlinellu'r darlun ar y plastr. Mae cartwnau arlunwyr megis Raphael a Leonardo da Vinci yn werthfawr iawn.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Argraffu
Ym myd argraffu modern, golygir cartŵn ddarn o arlunwaith, fel arfer gyda'r pwrpas o fod yn ddigri. Defnyddir y gair yn y cyd-destum yma ers 1843 pan ddefnyddiodd Cylchgrawn Punch y gair i ddisgrifio darluniau gwatwarus, yn arbennig darluniau gan John Leech.
[golygu] Animeiddio
Oherwydd steil tebyg stribedi comig a ffilmiau cynnar wedi eu hanimeiddio, daeth y gair cartŵn i'w ddefnyddio wrth sôn am animeiddio, dyma'r ffurf o'r gair cartŵn a ddefnyddir amlaf heddiw. Dengys catwnau fel arfer ar y teledu neu yn y sinema. Creir rhain drwy ddangos cyfres o ddarluniau yn sydyn iawn i roi'r argraff o symudiad.
[golygu] Gwyddoniaeth
Defnyddir y term cartŵn weithiau ym myd gwyddoniaeth i olygu diagram, yn arbenig un sy'n cyfleu digwyddiadau cyffredinol yn hytrach na esiampl arbenig.
[golygu] Dolenni Allanol
- Archif o gartwnau o papur newydd The New Yorker
- Cartwnau Chwaraeon
- BrazilCartoon.com
- Toonopedia Don Markenstein
- Bâs ddata Cartwnau Mawr
- Llyfrgell Archwilio Cartwnau
- Oes Aur Cartwnau
- The Cartoon Spot
- Pro Toonerz
- London Cartoon Gallery - Editorial Cartoons
- Kiotron
- Galeri gartwnau am ddim am faterion cyfoes
- Rhai cartwnau
- Cymuned cartwnio ar y wê
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.