See also ebooksgratis.com: no banners, no cookies, totally FREE.

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Newyn Mawr Iwerddon - Wicipedia

Newyn Mawr Iwerddon

Oddi ar Wicipedia

Bridget O'Donnel a'i phlant yn ystod y newyn, 1849
Bridget O'Donnel a'i phlant yn ystod y newyn, 1849

Effeithiodd Newyn Mawr Iwerddon (Gwyddeleg: An Gorta Mór, hefyd An Drochshaol) ar boblogaeth Iwerddon rhwng 1845 a 1849. Achos uniongyrchol y newyn oedd meicro-organeb llwydni o'r enw Phytophthora infestans, oedd yn ymosod at datws ac yn peri iddynt bydru. Effeithiodd P. infestans ar datws trwy ran helaeth o Ewrop, gan achosi prinder bwyd mewn nifer o fannau, ond roedd amgylchiadau arbennig yn Iwerddon a droes y newyn yn drychineb genedlaethol. Credir i oddeutu miliwn o bobl farw o newyn neu o glefydau a achoswyd gan newyn, a gorfodwyd nifer fawr o bobl yr ynys i ymfudo. Amcangyfrifir i boblogaeth Iwerddon ostwng o tua 20% hyd 25% rhwng 1845 a 1852. o ganlyniad.

O tua 1800, roedd tlodion Iwerddon wedi i ddibynnu bron yn llwyr ar datws am eu bwyd. Yn 1845, methodd y cynhaeaf tatws oherwydd y clwyf tatws. Yn 1846, methodd y cynhaeaf eto. Nid oedd y clwyf tatws yn broblem yn 1847 oherwydd tywydd anarferol o sych, ond oherwydd y sychder, bychan oedd y cynhaeaf, a gwnaed y sefyllfa'n waeth wrth i glefyd teiffws ymledu. Yn 1848 dychwelodd y clwyf tatws, ac ym mis Rhagfyr ymledodd colera trwy boblogaeth oedd eisoes wedi ei gwanhau yn fawr. 1849 oedd y flwyddyn waethaf, gyda'r cynhaeaf yn methu eto. Dim ond yn 1850 y cafwyd cynhaeaf tatws boddhaol, er fod y clwyf yn parhau'n broblem mewn rhai ardaloedd.

Er 1801, pan basiwyd y Ddeddf Uno, roedd Iwerddon yn rhan o'r Deyrnas Unedig ac yn cael ei rheoli o'r senedd yn Llundain. Yn hydref 1845, prynodd llywodraeth Dorïaidd Syr Robert Peel werth £100,000 o India corn o'r Unol Daleithiau, a gyrhaeddodd Iwerddon yn Chwefror 1846, ond nid oeddynt yn dymuno gwneud gormod rhag amharu ar weithgareddau preifat. Diddymwyd y Ddeddf Yd, ond ni chafodd hyn lawer o effaith. Ym Mehafin 1846, syrthiodd y llywodraeth, a daeth llywodraeth Chwigaidd dan yr Arglwydd John Russell i rym. Dechreuodd y llywodraeth yma raglen o weithiau cyhoeddus, yna rhoddodd y gorau i'r rhain a dechreuodd system o gymorth uniongyrchol. Ni chai neb gymorth oni bai ei fod yn gyntaf yn ildio'r holl dir a feddai, a rhwng hyn a't ffaith fod tenantiaid yn methu talu rhenti, gyrrwyd miloedd lawer oddi ar y tir, 90,000 yn 1849, a 104,000 yn 1850. Roedd bwyd yn cael ei allforio o Iwerddon i Loegr trwy gydol y newyn.

Yn 1845, ar ddechrau'r newyn, amcangyfrifir fod poblogaeth Iwerddon yn 8 miliwn. Gostyngodd y boblogaeth i'r hanner o ganlyniad i'r newyn a'r effeithiau a ddaeth yn ei sgîl, a hyd yn oed yn 1911 dim ond 4.4 miliwn oedd poblogaeth yr ynys.

Cafodd y newyn effaith fawr ar y farn gyhoeddus yn Iwerddon, gan arwain at gynnydd yn y gefnogaeth i fudiadau cenedlaethol. Arweiniodd hefyd at greu cymunedau Gwyddelig mewn gwledydd eraill oedd yn casau llywodraeth Prydain oherwydd yr hyn a welid fel ei difaterwch yn wyneb dioddefaint y Gwyddelod, neu hyd yn oed, ym marn rhai, yn ymgais fwriadol i ddifa'r Gwyddelod.

[golygu] Llyfryddiaeth

  • Cecil Woodham-Smith The Great Hunger, 1845-49 (Penguin, 1991)


aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -