Mel Gibson
Oddi ar Wicipedia
Actor ac awdur scriptiau ffilm Awstralaidd, yn enedigol o'r Unol Daleithiau, yw Mel Columcille Gerard Gibson (ganed 3 Ionawr 1956).
Ganed Gibson yn Peekskill, Efrog Newydd, a dras Wyddelig ac Awstralaidd. Symunodd i Awstralia pan oedd yn 12 oed, a bu'n fydyriwr yn y Sefydliad Cenedlaethol Celfyddyd Ddramatig yn Sydney. Daeth yn adnabyddus gyda'r cyfresi Mad Max a Lethal Weapon. Enillodd Wobr yr Academi fel cyfarwyddwr a phrif actor y ffilm Braveheart, am William Wallace. Yn 2004, ef oedd cyfarwyddwr a chynhyrchydd The Passion of the Christ, am oriau olaf bywyd Iesu.