See also ebooksgratis.com: no banners, no cookies, totally FREE.

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Maredudd ap Gruffudd - Wicipedia

Maredudd ap Gruffudd

Oddi ar Wicipedia

Roedd Maredudd ap Gruffudd (1130 - 1155) yn dywysog Deheubarth yn ne-orllewin Cymru.

Maredudd oedd mab hynaf Gruffydd ap Rhys gan Gwenllian ferch Gruffudd ap Cynan, er fod ganddo ddau hanner-brawd hŷn, Anarawd a Cadell. Nid oedd Maredudd on chwech oed pan laddwyd ei fam yn ymlasdd yn erbyn y Normaniaid, ac yn fuan wedyn bu farw ei dad. Pan oedd yn 16 mae cofnod amdano yn cynorthwyo ei frawd Cadell, oedd erbyn hyn yn dywysog Deheubarth, i yrru'r Normaniaid allan o Geredigion. Ychydig yn ddiweddarach llwyddodd i amddiffyn castell Caerfyrddin yn erbyn ymosodiad Normanaidd.

Yn 1151 bu ganddo ran flaenllaw yn y gwaith o ad-ennill gogledd Ceredigion oddi wrth Gwynedd. Yr un flwyddyn ymosodwyd ar Cadell gan griw o Normaniaid pan oedd allan yn hela. Gadawodd y Normaniaid ef gan gredu ei fod wedi marw. Llwyddwyd i achub ei fywyd, ond yr oedd wedi ei anafu yn rhy ddifrifol i barhau fel tywysog Deheubarth, ac i bob pwrpas Maredudd oedd yn rheoli o hynny ymlaen. Yn 1153 gadawodd Cadell ar bererindod i Rufain, gan adael Maredudd yn dywysog Deheubarth.

Bu farw Maredudd ddwy flynedd yn ddiweddarach yn 1155, gan adael ei frawd iau Rhys (a elwid Yr Arglwydd Rhys yn nes ymlaen) yn dywysog.


[golygu] Llyfryddiaeth

John Edward Lloyd (1911) A history of Wales from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmams, Green & Co.)


O'i flaen :
Cadell ap Gruffudd
Teyrnoedd Deheubarth
Maredudd ap Gruffudd
Olynydd :
Rhys ap Gruffudd


aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -