Môr Aral
Oddi ar Wicipedia
Môr neu lyn yng Nghanolbarth Asia yw Môr Aral (Kazakheg: Арал Теңізі, Aral Tengizi, Rwseg: Аральскοе мοре, Tajik/Perseg: Daryocha-i Khorazm, Llyn Khwarazm). Mae ei ran ogleddol yn Kazakhstan a'r rhan ddeheuol yn Karakalpakstan,rhanbarth o Uzbekistan. Ystyr yr enw yw "Môr yr Ynysoedd"; ceir dros 1,500 o ynysoedd ynddo,
Ers y 1960au mae arwynebedd Môr Aral wedi bod yn lleihau, wedi i gwrs yr afonydd Amu Darya a Syr Darya sy'n llifo iddo gael eu newid gan yr Undeb Sofietaidd ar gyfer dyfrhau cnydau. Erbyn 2004, nid oedd ganddo ond 25% o'i arwynebedd gwreiddiol, ac roedd lefel yr halen yn ei ddyfroedd wedi cynyddu bron bum gwaith, gan ladd llawer o'r anifeiliaid a phlanhigion ynddo. Mae llygredd yn broblem fawr hefyd. Ar hyn o bryd mae ymdrechion yn Kazakhstan i achub rhan ogleddol y llyn.