See also ebooksgratis.com: no banners, no cookies, totally FREE.

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Llwybr Clawdd Offa - Wicipedia

Llwybr Clawdd Offa

Oddi ar Wicipedia

Carreg filltir ger Llandegla
Carreg filltir ger Llandegla

Llwybr pellter hir sy'n rhedeg ar hyd y ffin rhwng Cymru a Lloegr, neu'n agos iddi, yw Llwybr Clawdd Offa. Cafodd ei agor yn 1971, ac mae'n un o dri Llwybr Cenedlaethol yng Nghymru. Am lawer o'i hyd o 283 km (177 milltir) mae'n dilyn olion Clawdd Offa, y clawdd pridd a godwyd yn yr 8fed ganrif gan y brenin Offa o Mercia, neu'n rhedeg yn ei ymyl.

Mae'r mwyafrif o gerddwyr y llwybr yn cerdded o'r de i'r gogledd, gan gychwyn ger afon Hafren, yn Sedbury, ger Cas-gwent, a gorffen ym Mhrestatyn ar arfordir y gogledd. Ar gyfartaledd mae'n cymryd tua deuddeg diwrnod i gerdded y llwybr, ond gallai'r amser amrywio yn ôl ffitrwydd y cerddwr.

Gan ddilyn cwrs y clawdd hynafol, mae'r llwybr yn croesi sawl tirwedd amrywiol. Mae'n croesi'r Mynydd Du, bryniau'r Mers rhwng canolbarth Cymru a Swydd Amwythig, bryniau Eglwyseg ger Llangollen ac wedyn Bryniau Clwyd. Mae'n pasio heibio sawl safle archaeolegol gan gynnwys bryngaerau fel Moel Arthur.

Rhed y llwybr trwy drefi Cas-gwent, Trefynwy a'r Fenni yn y de-ddwyrain, Y Gelli Gandryll, Tref-y-clawdd a Trefaldwyn ar y Gororau, ac wedyn trwy neu'n agos i drefi a phentrefi fel Llangollen, Llandegla, Bodfari a Diserth yn y gogledd-ddwyrain, i orffen ger Prestatyn.

Nodir pwynt hanner ffordd y llwybr gan Ganolfan Clawdd Offa yn Nhref-y-clawdd (ar y ffin rhwng Powys a Swydd Amwythig.

[golygu] Dolenni allanol

Ieithoedd eraill


aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -