Llansawel (Castell-nedd Port Talbot)
Oddi ar Wicipedia
Llansawel Castell-nedd Port Talbot |
|
Mae Llansawel (Saesneg: Briton Ferry) yn dref fechan yng Nghastell-nedd Port Talbot i'r de o Gastell-nedd.
Enwau ysgolion Llansawel yw Ynysmaerdy, Brynhyfryd, Cwrt Sart a Llansawel ger Eglwys Sant Mair. Yng ngorllewin Llansawel mae pentre Bedd y Cawr sydd wedi adeiladu ar farian terfynol Cwm Nedd ac yn y dwyrain mae ardal Ynysmaerdy. Yr enw Saesneg ar y dref yw Briton Ferry. Mae rhai pobl yn meddwl bod rhan gyntaf yr enw yn gytras â'r elfen 'Bryddan' yn yr enw Brynbryddan, sydd dros y bryn yng Nghwm Afan (felly: 'Rhyd Bryddan' efallai).
Am ddegawadau Llansawel oedd cartref Ysbyty Gyffredinol Castell Nedd a oedd yn gwasanaethu yr ardaloedd o amgylch Port Talbot (Porth Afan) a Chastell-nedd ond nawr mae ysbyty newydd Gwaun Baglan wedi cymryd ei lle.
Trefi a phentrefi Castell-nedd Port Talbot |
Aberafan | Alltwen | Baglan | Bedd y Cawr | Castell-nedd | Cwmafan | Cwmllynfell | Glyncorrwg | Glyn-Nedd | Gwaun-Cae-Gurwen | Llansawel | Pontardawe | Pontrhydyfen | Port Talbot | Resolfen | Sgiwen | Ystalyfera |