Limrig
Oddi ar Wicipedia
Mae'r limrig yn fath o bennill ysgafn ddoniol sydd gan amlaf â thro annisgwyl yn y llinell olaf. Daw'r gair Cymraeg o'r Saesneg limerick (o'r enw lle Limerick, tref yng ngorllewin Iwerddon). Mae gan limrig bum llinell yn odli a a b b a.
Mae'n ffurf weddol boblogaidd yn y Gymraeg, yn arbennig yn yr 20fed ganrif. Mae'n un o'r tasgiau arferol yn y gyfres Talwrn y Beirdd. Dyma enghraifft gan John Fitzgerald (o'r flodeugerdd Yr Awen Ysgafn):
- 'Roedd unwaith yng ngholeg Tre-gib
- Hen geiliog yn hoff ganddo'i bib,
- Wrth smocio hen blwg
- Fe ffrwydrodd mewn mwg,
- Heb adael o'i ôl ond ei grib'.
Efallai'r enwocaf o limrigwyr yn yr iaith Saesneg yw Edward Lear.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.