Blodeugerdd
Oddi ar Wicipedia
Detholiad o gerddi wedi'u casglu ynghŷd yw blodeugerdd. Fel rheol mae rhyw thema neu berthynas rhwng y cerddi hynny, er enghraifft cerddi serch, cerddi ar yr un mesurau, neu gerddi gan feirdd sy'n perthyn i'r un genedl neu gyfnod, ac ati.
Rhai o'r blodeugerddi cynharaf oedd anthologiir Groegiaid, gan gynnwys y casgliad o epigrammau a elwir Y Flodeugerdd Roegaidd. Ceid blodeugerddi mewn sawl iaith a diwylliant arall yn ogystal, gan gynnwys Tsieina, Siapan, Persia a'r byd Arabaidd.
Un o'r blodeugerddi Cymraeg cynharaf yw Gorchestion Beirdd Cymru, a olygwyd gan Rhys Jones o'r Blaenau a'i chyhoeddi yn 1773.
Yn ddiddorol iawn, ar y we fyd-eang mae'r Flodeugerdd Gymraeg hiraf, sef Byd y Beirdd: www.bydybeirdd.com