Lein Amlwch
Oddi ar Wicipedia
Lein Amlwch yw'r enw cyffredin ar reilffordd ar Ynys Môn sy'n rhedeg o Gaerwen i Amlwch. Yr enw Saesneg ar y linell yw'r Anglesey Central Railway, a fe gyfieithir hyn fel Rheilffordd Canolog Ynys Môn. Fe gaewyd y rheilffordd i deithwyr yn 1964 yn dilyn toriadau Dr Beeching, ond bu nwyddau'n cael eu cludo ar y linell hyd at 1993. Mae'r rheilffordd yn segur bellach, gyda'r cledrau wedi eu gadael ar ôl. Mae argymhellion wedi eu gwneud i ddefnyddio'r rheilffordd fel llwybr beiciau neu reilffordd treftadaeth, ond nid ydynt wedi bwrw ffrwyth eto.