See also ebooksgratis.com: no banners, no cookies, totally FREE.

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Krak des Chevaliers - Wicipedia

Krak des Chevaliers

Oddi ar Wicipedia

Krak des Chevaliers o'r de
Krak des Chevaliers o'r de

Castell anferth a godwyd gan y Croesgadwyr yw Krak des Chevaliers ("Castell y Marchogion"; cyfuniad o'r gair Arabeg krak / kerak "caer, castell" a'r Ffrangeg chevaliers). Saif ar fryn 630m o uchder ger dinas Homs yng nghanolbarth Syria, i'r gogledd o'r briffordd rhwng y ddinas honno a Beirut yn Libanus.

[golygu] Hanes

Y gwaith adeiladu, 1170-1200
Y gwaith adeiladu, 1170-1200

Codwyd y castell gan groesgadwyr o Ffrainc. Mae'r Krak yn un o'r enghreifftiau gorau o grefft y penseiri cestyll. Bu farw'r croniclydd canoloesol enwog Geoffrey de Joinville yno.

Codwyd yr amddiffynfa gyntaf ar y safle yn 1031 ar ran emir Aleppo. Fe'i cipiwyd dros dro gan y cownt Raymond IV o Toulouse yn gynnar yn 1099, yn ystod y Groesgad Gyntaf, ar ei ffordd i Jeriwsalem. Cafodd ei ailfeddianu gan Tancred, Tywysog Galilea yn 1110. Rhoddodd y cownt Raymond II o Dripoli y castell i Farchogion yr Ysbyty (yr Ysbytywyr) yn 1144.

Aethai'r Ysbytywyr ati i ailadeiladu'r castell yn sylweddol gan ei droi yn amddiffynfa arbennig, castell mwyaf y Croesgadwyr yn y Dwyrain Canol. Ychwanegasant fur allanol â thrwch o 3 meter gyda saith o dyrrau gwarchod anferth â muriau 8-10 meter o drwch, gan greu felly castell consentrig clasurol. Defnyddiai Meistr Mawr yr Ysbytywyr un o'r tyrau hynny fel ei bencadlys. Yn y 12fed ganrif ychwanegwyd clawdd anferth llawn o ddŵr a groesid gan bont godi yn arwain i byrth y postern.

Bu bron i'r castell syrthio i Saladin yn 1188 ar ôl bod ym meddiant y Croesgadwyr am brin 70 mlynedd. Daliwyd y castellan, ceidwad y castell, ac fe'i gorfodwyd i orchymyn i'r amddiffynwyr agor y porth ac ildio. Dywedodd hynny yn Arabeg ond yna ychwanegodd yn Ffrangeg orchymyn iddyn nhw ddal y castell i'r dyn olaf.

Yn ystod y pumed Croesgad ymwelodd Andrew II o Hwngari â'r castell ac atgyfnerthodd y muriau allanol yn 1217. Fe'i cipiwyd gan Baibars ar Ebrill 8, 1271, trwy ystryw gan ddweud fod Comte Tripoli wedi gorchymyn i'r amddiffynwyr ildio. Atggyfnethodd Baibars y castell a'i defnyddio fel canolfan ar gyfer ymosod ar Dripoli. Troes gapel y marchogion yn fosg. Tyfodd dref garsiwn sylweddol yn y castell. Cafodd ei ddefnyddio gan y Mameluks yn ddiweddarach i ymosod ar Acre yn 1291.

Mae'r castell heddiw yn Safle Treftadaeth y Byd.


aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -