See also ebooksgratis.com: no banners, no cookies, totally FREE.

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Jugurtha - Wicipedia

Jugurtha

Oddi ar Wicipedia

Jugurtha mewn cadwynau o flaen Sulla, o La conjuracion de Catilina y la Guerra de Jugurta (Madrid, 1772), cyfiethiad o waith Sallust.
Jugurtha mewn cadwynau o flaen Sulla, o La conjuracion de Catilina y la Guerra de Jugurta (Madrid, 1772), cyfiethiad o waith Sallust.

Brenin Numidia oedd Jugurtha, (tua 160 CC - 104 CC). Ein prif ffynhonnell amdano yw gwaith yr awdur Rhufeinig Sallust.

Ganed ef yn Cirta, dinas hynafol a safai ar safle dinas Constantine yn Algeria heddiw. Roedd yn ŵyr i Masinissa, oedd wedi creu teyrnas Numidia, ac wedi gwneud cynghrair a Gweriniaeth Rhufain. Yn 148 CC dilynwyd ef gan ei fab Micipsa. Roedd Jugurtha, oedd yn nai i’r brenin, mor boblogaidd ymysg y bobl nes i Micipsa ei yrru i Sbaen i’w gael o’r ffordd. Yno, ymladdodd gyda’r Rhufeiniaid dan Gaius Marius yn y gwarchae ar Numantia.

Pan fu farw Micipsa yn 118 CC, dilynwyd ef gan ei ddau fab, Hiempsal ac Adherbal. Bu cweryl rhwng Hiempsal a Jugurtha, a lladdwyd Hiempsal ar orchymyn Jugurtha. Canlyniad hyn oedd rhyfel rhyngddo ef ac Adherbal. Wedi i Jugurtha ei orchfygu mewn brwydr, ffodd Adherbal i Rufain i ofyn cymorth. Penderfynodd Rhufain rannu’r deyrnas yn ddwy, gyda Jugurtha yn frenin y rhan orllewinol.

Erbyn 112 CC roedd Jugurtha ac Adherbal yn ymladd eto. Lladdodd Jugurtha nifer o wyr busnes o’r Eidal oedd wedi helpu Adherbal, a bu rhyfel yn erbyn Rhufain. Ildiodd Jugurtha heb fawr o ymladd, a gwnaed cytundeb heddwch ffafriol iawn, gan godi amheuon ei fod wedi llwgrwobrwyo y cadfridog Rhufeinig.

Yn fuan, bu rhyfel arall rhwng Numidia a Rhufain, a gyrrwyd nifer o lengoedd i Ogledd Affrica dan y conswl Quintus Caecilius Metellus, gyda Gaius Marius fel un o’i brif swyddogion. Wrth i’r rhyfel lusgo ymlaen heb fuddugoliaeth derfynol, dychwelodd Marius i Rufain, lle’r etholwyd ef yn gonswl. Dychwelodd i Numidia i gymeryd lle Metellus fel cadfridog. Y flwyddyn ddilynodd, teithiodd ei swyddog Lucius Cornelius Sulla i Mauretania, lle gallodd berswadio’r brenin Bocchus I i drosglwyddo Jugurtha iddo fel carcharor.

Aed a Jugurtha yn garcharor i Rufain, ac wedi i Marius ddathlu ei fuddugoliaeth dros Numidia yn 104 CC, dienyddiwyd ef.

Ymestynnai teyrnas Jugurtha i gynnwys rhai ardaloedd sydd yng ngogledd-orllewin Tunisia heddiw, gan gynnwys Sicca Veneria (El Kef). I'r de-orllewin o'r ddinas honno ceir mynydd uchel trawiadol gyda chopa gwastad eang a elwir hyd heddiw yn Fwrdd Jugurtha (Table de Jugurtha, 1271 m).


aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -