See also ebooksgratis.com: no banners, no cookies, totally FREE.

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Ioan Gruffudd - Wicipedia

Ioan Gruffudd

Oddi ar Wicipedia

Ioan Gruffudd
Ioan Gruffudd

Actor enwog o Gymro yw Ioan Gruffudd (ganwyd 6 Hydref, 1973).

Cafodd ei addysgu yn Academi Brenhinol y Celfyddydau Dramatig, a daeth i'r amlwg ar lefel ryngwladol trwy chwarae rhan y Pumed Swyddog Harold Lowe yn y ffilm Titanic ym 1997. Serch hynny, tu hwnt i Gymru fe'i adnabyddir yn well am ei bortread o Horatio Hornblower yn y gyfres o ffilmiau teledu Hornblower (1998-2003, cyfres wedi ei seilio ar nofelau C. S. Forester.

Yn lled-ddiweddar mae Gruffudd wedi sefydlu ei hun fel "seren" Hollywood, yn chwarae rhannau Lancelot yn y ffilm King Arthur (2004), Reed Richards neu Mister Fantastic yn y ffilm Fantastic Four (2005) a'i dilyniant Rise of the Silver Surfer (2007), ac fel William Wilberforce yn y ffilm Amazing Grace (2006).

Taflen Cynnwys

[golygu] Bywgraffiad

[golygu] Bywyd Cynnar a Theulu

Ganwyd Gruffudd ar Hydref 6 1973 ym mhentref Llwydcoed ger Aberdâr, Rhondda Cynon Taf, yn Ne Cymru. Symudodd ei deulu wedyn i Gaerdydd. Roedd ei rieni, Peter a Gillian Gruffudd, yn athrawon. Mae ganddo frawd dwy flynedd yn iau nag ef, sef Alun, a chwaer, Siwan, sydd yn saith mlynedd yn iau.

[golygu] Addysg

Aeth Gruffudd i Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr (Ynyslwyd) (bellach wedi ei lleoli yng Nghwmdâr), Ysgol Gymraeg Melin Gruffydd, a Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, lle cymerodd ei TGAU a'i Lefelau-A. Yn gerddorwr naturiol, chwaraeodd yr oboe yn ei arddegau, gan ennill lefel Gradd 8 ynddi.

[golygu] Gyrfa

Dechreuodd Gruffudd ei yrfa fel actor yn 12 oed yn y ffilm Gymraeg Austin (1986) a symudodd wedyn i'r opera sebon Gymraeg Pobol y Cwm o 1987 tan 1994. Yn 18 oed, aeth i Academi Brenhinol y Celfyddydau Dramatig yn Llundain. Ym 1996 ymddangosodd mewn fersiwn newydd o'r gyfres deledu Poldark.

Ar ôl chwarae rhan cariad Oscar Wilde,John Gray, yn y ffilm Wilde (1997), chwaraeodd ei rol rhyngwladol cyntaf fel Pumed Swyddog Harold Lowe yn y ffilm Titanic. Wedyn chwaraeodd ran Horatio Hornblower yn Hornblower.

Mae ei waith fel actor ar deledu yn cynnwys charae rhan Pip yn y cynhyrchiad BBC o Great Expectations (1999), y stori gan Charles Dickens, chwaraeodd ran Solomon Levinsky yn y ffilm Solomon a Gaenor (1999), a rhan y pensaer Philip Bosinney yn addasiad ITV's o The Forsyte Saga (2002). O ran ffilmiau, mae Gruffudd wedi ymddangos yn 102 Dalmatians (2000), Black Hawk Down (2001), King Arthur (2004), Fantastic Four a'i dilyniant Fantastic Four: Rise of the Silver Surfer (2007), ac fel William Wilberforce yn y ddrama hanesyddol Amazing Grace (2006).

Cafodd ei dderbyn gan yr Orsedd yn 2003.

[golygu] Bywyd Personol

Mae Gruffudd yn byw gyda'i wraig, yr actores Alice Evans, yn Los Angeles, Califfornia.

[golygu] Ffilmiau

  • Wilde (1997)
  • 102 Dalmations
  • Black Hawk Down
  • King Arthur (2004)

[golygu] Rhaglenni Teledu

  • Pobol y Cwm
  • Great Expectations
  • The Forsyte Saga
  • Hornblower
Comin Wicifryngau
Mae gan Gomin Wicifryngau gyfryngau sy'n berthnasol i:


aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -