Aberdâr
Oddi ar Wicipedia
Aberdâr Rhondda Cynon Taf |
|
Tref yng Nghwm Cynon yn sir hanesyddol Morgannwg, ym mwrdeistref sirol Rhondda Cynon Taf, de Cymru yw Aberdâr (llurguniad Saesneg: Aberdare). Ym 1991 roedd poblogaeth y dref yn 31,619. Mae Aberdâr bedair milltir o Ferthyr Tudful a thua 24 milltir o Gaerdydd. Mae gwasanaeth rheilffordd rhwng Aberdâr a Chaerdydd trwy Gwm Cynon.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Hanes
Yng Nghwmbach Aberdâr y ffurfiwyd y gangen gyntaf o'r Gymdeithas Gydweithredol yng Nghymru, ym 1860.
Yn wreiddiol, ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd pentref Aberdâr mewn ardal amaethyddol, ond pan ddarganfuwyd llawer o lo a mwyn haearn yn yr ardal cynyddodd y boblogaeth yn gyflym iawn. Sefydlwyd gweithdai haearn yn Llwydcoed ac Abernant ym 1799 a 1800, wedi'u dilyn gan eraill yn Gadlys ac Aberaman ym 1827 a 1847. Nid yw'r rhain wedi gweithio ers 1875. Cyn 1836, câi'r rhan fwyaf o'r glo ei ddefnyddio yn lleol, yn bennaf yn y gweithdai haearn, ond wedyn dechreuwyd allforio glo o dde Cymru. Yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gwellodd y dref yn fawr.
Aberdâr oedd cartref un o feirdd yr Ail Ryfel Byd, Alun Lewis, ac mae dyfyniad o'i gerdd The Mountain over Aberdare i'w weld yn y dref. Dyma gartref y Stereophonics hefyd, sy'n dod o Gwmaman. Fel mae'n digwydd mae yna Aberdare yn Ne Cymru Newydd, Awstralia, sydd hefyd yn cynnwys pyllau glo.
[golygu] Enwogion
- Alun Lewis, bardd o bentref Gwmaman
- Bethan Jenkins, Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru.
[golygu] Eisteddfod Genedlaethol
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn Aberdâr ym 1861, 1885 a 1956. Am wybodaeth bellach gweler:
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberdâr 1861
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberdâr 1885
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberdâr 1956
[golygu] Gefeilldrefi
[golygu] Dolenni allanol
- Clochdar Papur Bro Cwm Cynon (fel rhan o wefan y BBC)
- (Saesneg) Clwb criced
- (Saesneg) Clwb cerdd
- (Saesneg) Clwb Rygbi Aberdâr
- (Saesneg) Julian Castaldi Un o brif artistiaid modern Aberdâr
- Llyfrgell y dref
Trefi a phentrefi Rhondda Cynon Taf |
Aberaman | Abercynon | Aberdâr | Aberpennar | Beddau | Cwmaman | Dinas Rhondda | Gilfach Goch | Hirwaun | Llanhari | Llantrisant | Llwydcoed | Llwynypia | Y Maerdy | Nantgarw | Penderyn | Penrhiw-ceibr | Pentre'r Eglwys | Pont-y-Clun | Pontypridd | Penywaun | Y Porth | Rhigos | Tanysguboriau | Tonypandy | Treherbert | Treorci | Ystrad Rhondda |