Hwyaden Addfain
Oddi ar Wicipedia
Hwyaden Addfain | ||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | ||||||||||||||
|
||||||||||||||
Enw deuenwol | ||||||||||||||
Anas querquedula (Linnaeus, 1758) |
Mae'r Hwyaden Addfain (Anas querquedula) yn un o deulu'r hwyaid. Mae'n nythu trwy rannau helaeth o Ewrop a gorllewin Asia, ond yn wahanol i'r rhan fwyaf o'r hwyaid mae'r boblogaeth i gyd yn mudo i Affrica yn y gaeaf. Mae'n nythu mewn glaswellt gerllaw corsydd neu lynnoedd.
Gellir adnabod y ceiliog yn hawdd; mae ganddo ben a bron frown a llinell wen amlwg iawn uwchben y llygad, gyda'r gweddill o'r corff yn llwyd. Mae'r iâr yn anoddach ei hadnabod, gan ei bod yn debyg iawn i iâr Corhwyaden, ond mae'r patrwm ar yr wyneb yn wahanol.
Nid yw'r Hwyaden Addfain yn aderyn cyffredin yng Nghymru. Mae nifer fychan o barau yn nythu, ac eraill yn cael eu gweld yn y gwanwyn neu'r hydref wrth iddynt basio trwodd.