Homo
Oddi ar Wicipedia
Homo | ||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Penglog Homo ergaster
|
||||||||||||||||||
Dosbarthiad gwyddonol | ||||||||||||||||||
|
||||||||||||||||||
Rhywogaethau | ||||||||||||||||||
Homo sapiens |
Homo yw'r rhywogaeth (genws) sy'n cynnwys dynolryw a'u perthnasau agosaf. Tybir fod y genws yn bodoli ers tua 1.5 i 2.5 miliwn o flynyddoedd. Mae pob rhywogaeth ac eithrio Homo sapiens wedi darfod o'r tir. Darfod fu hanes Homo neanderthalensis, y rhywogaeth olaf ac eithrio dyn, tua 30,000 o flynyddoedd yn ôl (ond yn ddiweddar ceir tystiolaeth sy'n awgrymu i Homo floresiensis fyw hyd at mor ddiweddar â 10,000 CC.
Mae'r rhan fyaf o wyddonwyr yn meddwl fod y gwahaniaeth rhwng dyn a'r gorila a tsimpansî yn rhy fawr iddyn nhw fod yn rhan o'r un genws, er eu bod fel arall yn agos iawn i ni. Y genws agosaf i Homo yw Kenyanthropus platyops, sydd efallai'n genws hynafiad. Yn nesaf, trwy'r genws hwnnw, mae homo yn perthyn i'r genii Paranthropus ac Australopithecus, a adawsant stema'r egin-Homo tua 5 miliwn o flynyddoedd yn ôl.
[golygu] Rhywogaethau
- †Homo habilis (Dyn Galluog)
- †Homo rudolfensis (Dyn Rudolf)
- †Homo ergaster (Dyn Gweithgar)
- †Homo erectus (Dyn Cefnsyth)
- †Homo floresiensis (Dyn Flores — darganfuwyd yn 2003)
- †Homo antecessor (Dyn Rhagflaenol)
- †Homo heidelbergensis (Dyn Heidelberg)
- †Homo neanderthalensis (Dyn Neanderthal)
- †Homo rhodesiensis (Dyn Rhodesia)
- †Homo cepranensis (Dyn Ceprano)
- †Homo georgicus (Dyn Georgia)
- Homo sapiens
- †Homo sapiens idaltu (Hen Ddyn doeth — darganfuwyd yn 1997)
- Homo sapiens sapiens (Dyn Doeth; y dyn modern)