Hedd Wyn (ffilm)
Oddi ar Wicipedia
Hedd Wyn | |
Cyfarwyddwr | Paul Turner |
---|---|
Ysgrifennwr | Alan Llwyd |
Serennu | Huw Garmon |
Dyddiad rhyddhau | 1992 |
Amser rhedeg | 123 munud |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
(Saesneg) Proffil IMDb |
Ffilm Gymraeg am fywyd y bardd Hedd Wyn yw Hedd Wyn. Cafodd ei henwebu am Oscar ym 1994. Huw Garmon sy'n serennu fel Hedd Wyn.
Sgriptiwyd y ffilm gan y bardd Alan Llwyd, awdur y gyfrol Gwae fi fy myw, hunangofiant Hedd Wyn. Cafodd llawer o'r golygfeydd eu saethu ar leoliad yn ardal Trawsfynydd, de Gwynedd, pentref genedigol Hedd Wyn. Mae'r gyferbyniaeth rhwng y golygfeydd swynol o gefn gwlad bugeiliol Meirion a'r golygfeydd cignoeth o erchylltra'r ymladd yn ffosydd y Rhyfel Byd Cyntaf, lle lladdwyd Hedd Wyn, yn un o gryfderau'r ffilm.