Gorsaf reilffordd St Pancras
Oddi ar Wicipedia
Mae Gorsaf reilffordd St Pancras yn orsaf bwysig a agorwyd yn 1868; dethlir ef am ei bensaerniaeth. Lleolir yr orsaf yn ardal St Pancras, Llundain rhwng y Llyfrgell Brydeinig a Gorsaf King's Cross.
Yn ystod y 2000au, adnewyddwyd ac ymestynwyd yr orsaf ac fe'i hailagorwyd dan yr enw newydd St Pancras Rhyngwladol, gyda therminal newydd wedi ei ddiogelu ar gyfer trenau Eurostar i gyfandir Ewrop. Gwasanaethir yr orsaf gan Gorsaf tiwb King's Cross St. Pancras ar rwydwaith Rheilffordd Danddaearol Llundain.