Gobi
Oddi ar Wicipedia
Mae'r Gobi yn anialwch yng Nghanolbarth Asia. Mae ganddo arwynebedd o tua 1,295,000km² (500,000m²).
Mae'r Gobi'n ymestyn trwy rannau sylweddol o dde-ddwyrain Mongolia a gogledd Tsieina. Wedi'i lleoli ar lwyfandir 900-1500m uwchben lefel y môr, mae'n anialwch creigiog yn bennaf, gyda sawl ardal o gorsdir hallt a ffrydiau bychain sy'n diflannu i'r tywod ar ôl rhedeg cwrs byr.
Y mae rhannau o'r Gobi'n gyfoethog mewn safleoedd archaeolegol a gweddillion cynhanesyddol fel ffosilau ac offer carreg.