Gair rhydd
Oddi ar Wicipedia
Math | Papur newydd myfyrwyr wythnosol |
---|---|
Fformat | Tabloid |
|
|
Perchennog | Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd |
Golygydd | Tom Wellingham |
Sefydlwyd | 1972 |
Pris | di-dâl |
Pencadlys | Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, Caerdydd |
|
|
Gwefan: www.gairrhydd.com |
gair rhydd yw papur newydd myfyrwyr swyddogol Prifysgol Caerdydd. Mae'n bapur wythnosol, maint tabloid sydd yn rhad ac am ddim. Fe'i sefydlwyd ym 1972 ac fe'i olygir gan swyddog sabothol llawn amser yr Undeb Myfyrwyr. Mae adrannau'r papur yn cynnwys: Newyddion, Newyddion Bydol, Iechyd, Gwyddoniaeth, Swyddi ac Arian, Gwleidyddiaeth, Chwaraeon, Erthygl Olygyddol a Barn, colofnydd neu ddwy, tudalen "Problem" gwatwarus, 'Five minute Fun' (posau), a beth mae'r tîm yn sicr yw'r amserlenni teledu mwyaf ddoniol erioed. Ysgrifennir y papur yn Saesneg, ond mae yna adran fach (fel arfer nid mwy na dwy dudalen) Cymraeg o'r enw Taf-Od.
Etholwyd y golygydd cyntaf i gael ei dalu, Meirion Jones (nawr ar y rhaglen BBC Newsnight), yn 1980.
Yn 2003, dechreuodd gair rhydd cylchgrawn pythefnosol o'r enw Quench, a enillodd "Student Publication of the Year 2005" yn yr EMAP Fanzine Awards.
Y golygyddyion cyfredol yw Tom Wellingham a ddirprwy Will Dean (hefyd yn olygydd Quench), etholwyd yn Ebrill 2005.
Dathlodd gair rhydd ei 800fed argraffiad yn ddiweddar.
[golygu] Gwobrwyon
Mae gair rhydd wedi ennill nifer o wobrau cyfryngau myfyrwyr, y rhan fwyaf ohonynt ar ddechrau'r 1990au ac yn mwy ddiweddar fel ennillwr "Best Paper" y NUS/Daily Mirror National Student Journalism Awards. Ennillod gair rhydd "Newspaper and Magazine of the Year" yn y Guardian Student Media Awards 2005 hefyd, ac ennillod yr olygydd dirprwy James Anthony "Student Journalist of the Year".
[golygu] Cartwnau Muhammad
Gwaharddwyd y golygydd a ddwy (nid tair, fel dywedir y rhan fwyaf o adroddiadau) newyddiadurwr myfyriwr ar 4 Chwefror 2006 pryd, yn argraffiad rhif 804, ailargraffon nhw un o'r cartwnau dadleuol o'r Proffwyd Muhammad yr oedd nifer o Mwslemiaid ar ddraws y byd yn credu i fod yn gableddus. Enciliodd yr argraffiad o gyhoeddiad o fewn diwrnod i'w ryddhad, a gyhoeddodd y golygydd ymddiheuriad yn yr argraffiad dilynol.