Cwm Rhondda (emyn-dôn)
Oddi ar Wicipedia
Emyn-dôn Gymreig poblogaidd iawn yw Cwm Rhondda, sy'n cael ei ystyried fel anthem answyddogol Cymru a chanwyd ar nifer o achlysuron ar wahân i'r eglwys, gan gynnwys mabolgampau (yn enwedig ar y maes rygbi).[1] Daw enw'r gân o le caiff ei chyfansoddi, sef Cwm Rhondda, yn dilyn arferiad i alluogi organyddion i adnabod tôn yn syth.[2] Ysgrifennodd William Williams y testun (Arglwydd, arwain trwy'r anialwch)[1] a chaiff ei ganu i alaw a gyfansoddodd John Hughes yn 1907 i ddathlu pen-blwydd Capel Rhondda yn Hopkinstown, ger Pontypridd.[2] Mae'n sôn am hanes yr Iddewon yn teithio o'r Aifft i Ganaan (stori Llyfr Exodus yn y Beibl).[2] Weithiau canir geiriau Wele'n sefyll rhwng y myrtwydd gan Ann Griffiths. Mae fersiynau Saesneg o'r gân hefyd: Bread of Heaven (cyfieithiad o eiriau Williams, gan Peter Williams), Christ is Coming, a God of Grace and God of Glory.
Cafodd fersiwn y Ffiwsiliwyr Brenhinol Cymreig o'r emyn-dôn ei ddewis gan yr actores Seisnig Kristin Scott Thomas fel un o'i Desert Island Discs hi, ar gyfer y rhaglen ar BBC Radio 4.[3]
[golygu] Ffynonellau
- ↑ 1.0 1.1 100 Arwyr Cymru — William Williams (Pant-y-celyn)
- ↑ 2.0 2.1 2.2 S4C — Codi Canu: Cwm Rhondda
- ↑ (Saesneg) BBC Radio 4 - Factual - Desert Island Discs - Kristin Scott Thomas. Adalwyd ar 1 Gorffennaf, 2007.