See also ebooksgratis.com: no banners, no cookies, totally FREE.

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Cwm Penamnen - Wicipedia

Cwm Penamnen

Oddi ar Wicipedia

Cwm Penamnen
Cwm Penamnen

Cwm i'r de o Ddolwyddelan, bwrdeistref sirol Conwy, yw Cwm Penamnen, yn rhedeg bron yn union o'r de at y gogledd, lle mae'n ymuno â Dyffryn Lledr.

[golygu] Hanes

Rhed Sarn Helen, y ffordd Rhufeinig, drwy'r cwm.

Yn ôl hanes teulu Gwydir, adeiladodd Maredudd ab Ieuan ap Robert, hynafiad teulu Gwydir, blasdy yma o gwmpas y flwyddyn 1485[1]. Symudodd y teulu yn ddiweddarach at Gastell Gwydir. Gadawyd olion y plasdy, yn dwyn yr enw Parlwr Penamnen neu Tai Penamnen, a bu tua dechrau'r ddeunawfed ganrif yn gartref i'r bardd Angharad James[2][3].

Mae olion y tai[4] i'w gweld heddiw ac yn cael eu hymchwilio gan archaeolegwyr.[5]

Yn yr ugeinfed ganrif, bu bygythiad i foddi'r cwm. Mae'r rhan fwyaf o'r cwm, fel y gweddill o hen stâd Gwydir, wedi ei feddianu at goedwigaeth heddiw.

[golygu] Yr Afon

Enw hynafol y nant sy'n rhedeg trwy'r cwm oedd Afon Beinw, ac mae'r enw yn goroesi yn Aberbeinw, rhes o dai yn agos at lle mae'n ymuno ag Afon Lledr. Dywedodd O. Gethin Jones mai talfyraid o Cwm Pennant Beinw yw Cwm Penamnen[6]. Gelwir y nant yn Afon Penamnen neu Afon Cwm Penamnen erbyn hyn.

[golygu] Ffynonellau

  1. History of the Gwydir Family, Sir John Wynn , golygiad J Gwynfor Jones (1990), tudalennau 55,57
  2. Hanes Plwyf Dolwyddelan, Gweithiau Gethin (Llanrwst, 1884)
  3. Cofiant Y Parchedig John Jones, Talsarn; Owen Thomas, D.D., Wrexham 1874, tudalen 24
  4. Royal Commission on Ancient and Historical Monuments in Wales and Monmouthshire – an inventory of the ancient monuments in Caernarvonshire,Volume 1 – East (1956), tudalennau 82,83
  5. (Saesneg) Clwb Archeolegwyr Ifainc Ynys Môn (27/1/2008).
  6. Hanes Plwyf Dolwyddelan, Gweithiau Gethin (Llanrwst, 1884)


aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -