Coedwig Gwydyr
Oddi ar Wicipedia
Coedwig yn sir Conwy yng Ngogledd Cymru yw Coedwig Gwydyr, hefyd Coed Gwydyr, Coedwig Gwydir a Coed Gwydir. "Coedwig Gwydyr" yw'r ffurf a ddefnyddir gan y perchenogion, y Comisiwn Coedwigaeth.
Mae'r rhan fwyaf o'r goedwig ar lechweddau dwyreiniol Eryri, o gwmpas Betws-y-Coed, ac mae'n ymestyn i'r gogledd cyn belled a phentref Trefriw ac i'r de i gyffiniau Penmachno. O'r arwynebedd o 72.5 km sgwar, mae tua 49 km sgwar yn goedwig gynhyrchiol. Mae rhwng 700 a 1000 o droedfeddi uwch lefel y môr. Dechreuwyd plannu'r goedwig yn 1921, a cheir nifer o rywogaethau o goed bytholwyrdd yno.
Ceir cryn nifer o lynnoedd yn y goedwig:
- Llyn Crafnant (63 acer)
- Llyn Geirionydd (45 acer)
- Llyn Elsi (26 acer)
- Llyn Parc (22 acer)
- Llyn Glangors (15 acer)
- Llyn Bodgynydd (14 acer)
- Llyn Goddionduon (10 acer)
- Llyn Pencraig (5 acer)
- Llyn Bychan (3 acer)
- Llyn Sarnau (3 acer)
- Llyn Tynymynydd (1 acer)
Ar un adeg roedd cryn dipyn o fwyngloddio am Blwm a sinc yn yr ardal, ac mae gweddillion nifer o'r hen fwyngloddiau i'w gweld. Crwwyd "Llwybr y Mwynwyr" i gysylltu pedair ohonynt, Parc. Hafna, Llanrwst a Cyffty.
Ceir nifer o blanhigion prin yn y fforest, yn enwedig o gwmpas yr hen fwyngloddiau, ac mae hefyd dystiolaeth fod y Bele yn dal i fyw yn y goedwig.
[golygu] Llyfryddiaeth
- Shaw, Donald L. Gwydyr Forest in Snowdonia: a history (Cyfres Forestry Commission Booklet ; no.28, H.M.S.O., 1971) ISBN 0117100102