Cwm, Sir Ddinbych
Oddi ar Wicipedia
Pentref bychan, heb fod fawr mwy nag amlwd, yn rhan isaf Dyffryn Clwyd, Sir Ddinbych, yw Cwm.
Gorwedd y pentref ar ochr ddwyreiniol Dyffryn Clwyd tua milltir a hanner i'r de o bentref Diserth, tair milltir i'r dwyrain o dref Rhuddlan. Fel mae ei enw yn awgrymu, mae'r pentref yn gorwedd mewn cwm bychan ar lethrau gorllewinol Bryniau Clwyd. Mae lôn yn rhedeg trwy'r cwm drosodd i gyfeiriad Treffynnon.
Pentref gwledig bychan gwasgaredig yw Cwm. Mae rhan isaf y pentref yn glwstwr o dai ar y ffordd sy'n cysylltu Diserth a Rhuallt i'r de. Mae'r eglwys hynafol yn gysegredig i'r Seintiau Mael a Sulien. Ceir carnedd (tumulus) gynhanesyddol ar y bryn i'r de a bryngaer fechan ar y bryn i'r gogledd.
Trefi a phentrefi Sir Ddinbych |
Aberchwiler | Betws Gwerful Goch | Bodelwyddan | Bodfari | Bontuchel | Bryn Saith Marchog | Bryneglwys | Carrog | Cefn Meiriadog | Corwen | Cwm | Cyffylliog | Cynwyd | Derwen | Dinbych | Diserth | Y Ddwyryd | Efenechtyd | Eryrys | Gallt Melyd | Glyndyfrdwy | Gwyddelwern | Henllan | Llanarmon-yn-Iâl | Llanbedr Dyffryn Clwyd | Llandegla-yn-Iâl | Llandrillo | Llandyrnog | Llanelidan | Llanelwy | Llanfair Dyffryn Clwyd | Llanferres | Llangollen | Llangwyfan | Llangynhafal | Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch | Llanynys | Melin y Wig | Nantglyn | Pandy'r Capel | Prestatyn | Prion | Rhewl | Rhuallt | Rhuddlan | Rhuthun | Y Rhyl | Sodom | Tafarn-y-Gelyn | Trefnant | Tremeirchion |