See also ebooksgratis.com: no banners, no cookies, totally FREE.

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Betws Gwerful Goch - Wicipedia

Betws Gwerful Goch

Oddi ar Wicipedia

Gweler hefyd Betws (gwahaniaethu).

Pentref bach gwledig a phlwyf yn y Sir Ddinbych newydd yw Betws Gwerful Goch (neu Bettws Gwerfil Goch). Roedd gynt yn rhan o Sir Feirionnydd (tan 1974) ac ar ôl hynny Clwyd (1974 - 1996). Roedd Betws Gwerful Goch yn rhan o hen arglwyddiaeth annibynnol Dinmael yn yr Oesoedd Canol. Fe'i lleolir rhwng Melin y Wig a Chorwen yn ne eithaf y sir. Rhed Afon Alwen heibio iddi.

Gwasanaethodd y llenor Edward Samuel, taid David Samwell (Dafydd Ddu Feddyg) fel rheithor y plwyf o 1702 hyd 1721, pan symudodd i blwyf Llangar.

[golygu] Yr eglwys

Roedd Betws Gwerful Goch yn un o blwyfi hynafol cwmwd Edeirnion ym Merionnydd. Dywedid ei bod yn bosibl taflu carreg o lan yr eglwys i un o'r tair plwyf y mae ei ffiniau'n cwrdd yno, sef plwyfi Corwen, Llanfihangel Glyn Myfyr, a Gwyddelwern. Mae'r eglwys yn gysegredig i'r Santes Fair.

Ceir y cyfeiriad hanesyddol cyntaf at yr eglwys yn 1254, ond fel yn achos nifer o fannau eraill mae'n bosibl fod eglwys yno cyn hynny. Cafodd yr eglwys ei hatgyweirio'n sylweddol yn 1882 ond cedwir ynddi rhai o'r cerfiadau pren hynafol o'r hen eglwys.

[golygu] Gwerful

Roedd Gwerful yn ferch i Gynan (m. 1174) fab Owain Gwynedd, yn ôl rhai hen achau. Buasai yn ei blodau tua'r flwyddyn 1200 felly. Un o'i hewythrau oedd y bardd-dywysog enwog Hywel ab Owain Gwynedd. Cafodd ei chladdu yn Dinmael. Dyna'r cwbl sy'n hysbys amdani ond mae'r diweddar Athro Bedwyr Lewis Jones yn awgrymu iddi roi nawdd i godi capel anwes ('betws') yno a gafodd ei henwi'n Fetws Gwerful Goch wedyn (gw. Yn Ei Elfen (Llanrwst, 1992), tt. 18-19).


Trefi a phentrefi Sir Ddinbych

Aberchwiler | Betws Gwerful Goch | Bodelwyddan | Bodfari | Bontuchel | Bryn Saith Marchog | Bryneglwys | Carrog | Cefn Meiriadog | Corwen | Cwm | Cyffylliog | Cynwyd | Derwen | Dinbych | Diserth | Y Ddwyryd | Efenechtyd | Eryrys | Gallt Melyd | Glyndyfrdwy | Gwyddelwern | Henllan | Llanarmon-yn-Iâl | Llanbedr Dyffryn Clwyd | Llandegla-yn-Iâl | Llandrillo | Llandyrnog | Llanelidan | Llanelwy | Llanfair Dyffryn Clwyd | Llanferres | Llangollen | Llangwyfan | Llangynhafal | Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch | Llanynys | Melin y Wig | Nantglyn | Pandy'r Capel | Prestatyn | Prion | Rhewl | Rhuallt | Rhuddlan | Rhuthun | Y Rhyl | Sodom | Tafarn-y-Gelyn | Trefnant | Tremeirchion


aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -