Culfor Sisili
Oddi ar Wicipedia
Culfor yng nghanol y Môr Canoldir sy'n gorwedd rhwng ynys Sisili i'r gogledd a phenrhyn Cap Bon, Tunisia, i'r de, yw Culfor Sisili. Ei led yw tua 100 milltir.
Ers dros dair mil o flynyddoedd, mae Culfor Sisili wedi bod yn fan o bwys strategol am ei bod yn rheoli'r llwybr morol rhwng gorllewin a dwyrain y Môr Canoldir (mae Culfor Messina, rhwng Sisili a thir mawr yr Eidal, yn bwysig hefyd ond yn beryglus i longau hwyliau). Bu'r Carthageniaid, y Groegiaid a'r Rhufeiniaid yn cystadlu am reolaeth arni.