See also ebooksgratis.com: no banners, no cookies, totally FREE.

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Constantius II - Wicipedia

Constantius II

Oddi ar Wicipedia

Constantius II
Constantius II

Flavius Julius Constantius, mwy adnabyddus fel Constantius II (7 Awst 317 - 3 Tachwedd 361), oedd ymerawdwr Rhufain o 337 hyd ei farwolaeth.

Yr oedd Constantius yn drydydd mab Cystennin I a’i wraig Fausta. Ganed ef yn Illyricum (Hwngari heddiw) a cyhoeddwyd ef yn “Gesar” (is-ymerawdwr). Pan fu farw ei dad yn 337, llwyddodd i gael gwared o holl ddisgynyddion Constantius Chlorus o’i ail wraig Theodora, gan ei adael ef ei hun a’i frodyr Cystennin II a Constans, disgynyddion .gwraig gyntaf Constantius Chlorus, Helena. Rhannwyd yr ymerodraeth rhyngddynt, gyda Constantius yn cael Caergystennin a dwyrain yr ymerodraeth. Cymerodd Constantius ran yn nadleuon diwinyddol y cyfnod, gan gefnogi Ariaeth.

Yn 340 lladdwyd Cystennin II wrth ymosod ar Constans yn yr Eidal, gan adael Constans yn feistr rhan orllewinol yr ymerodraeth. Yn 350 lladdwyd Constans mewn brwydr yn erbyn Magnentius oedd yn ceisio hawlio’r ymerodraeth. Enwodd Constantius ei gefnder Gallus fel “Cesar”, ac yn 351 llwyddasant i orchfygu Magnentius ym mrwydr Mursa Major, un o frwydrau mwyaf gwaedlyd Rhufain. Lladdodd Magnentius ei hun yn 353, a chan nad oedd angen Gallus bellach, trefnodd Constantius i’w ladd yn fuan wedyn.

Penododd Constantius yn unig aelod gwrywaidd o’r teulu oedd yn dal yn fyw, Julian, fel Cesar, a rhoddodd ei chwaer Helena yn wraig iddo. Fodd bynnag, gwrthryfelodd Julian a chyhoeddwyd ef yn Augustus gan ei filwyr. Yr oedd byddinoedd y ddau yn bur gyfartal, ond ar 3 Tachwedd 361 bu Constantius farw o dwymyn gerllaw Tarsus, gan adael Julian yn ymerawdwr.


O'i flaen :
Cystennin I
Ymerodron Rhufain
Constantius II

gyda Cystennin II a Constans
(am gyfnod).
Olynydd :
Julian


aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -