Comed
Oddi ar Wicipedia
Corff nefol cynharol fychan sy'n cylchdroi o amgych yr haul mewn cylchdro eliptig yw Comed. Gall eu deunydd gynnwys creigiau, rhew a nwy; cyfeirir atynt weithiau fel "peli eira budur". Pan ddaw comed yn ddigon agos at yr haul, cynhesir ei deunydd ddigon i greu coma o nwyon o'i hamgylch, a gall hwn ymffurfio'n "gynffon" sydd bob amser yn pwyntio i ffwrdd oddi wrth yr haul, ac sy'n creu ffurf draddodiadol comed.
Gall cnewyllyn y gomed amrywio o un i 50 km ar draws, gyda'r coma yn ymestyn dros 100,000-1,000,000 km; pan ffurfir cynffon, gall ymestyn am filiynau lawer o gilomedrau.
Yn 1932 daeth Ernst Julius Öpik allan â'r ddamcaniaeth fod comedau yng Nghysawd yr Haul yn ymffurfio mewn cwml o lwch a mater arall y tu hwnt i gylchdro'r blaned gorrach Plwto. Enwir y cwmwl hwnnw yn Gwmwl Oort (neu Cwmwl Öpik-Oort). Ystyrir Gwregys Kuiper, rhanbarth ar ffurf disg tu hwnt i gylchdro Neifion rhyw 30-50 Unedau Seryddol o bellter oddi wrth yr Haul sy'n cynnwys llawer iawn o gyrff rhewllyd bychain, fel tarddle comedau cyfnod byr.
[golygu] Comedau enwog
- Comed 1P/Halley
- Comed 2P/Encke
- Komeet 9P/Tempel 1
- Comed 17P/Holmes
- Comed 19/P Borrelly
- Comed 73P/Schwassmann-Wachmann
- Comed 109P/Swift-Tuttle
- Comed Arend-Roland
- Comed Ikeya-Seki
- Comed Kohoutek
- Komeet Shoemaker-Levy 9
- Comed Hyakutake
- Comed Hale-Bopp
- Comed Machholz
- Comed McNaught