Ernst Julius Öpik
Oddi ar Wicipedia
Roedd Ernst Julius Öpik (23 Hydref, 1893 – 10 Medi, 1985) yn seryddwr ac astroffisegydd o fri o Estonia, a dreuliodd y rhan olaf o'i yrfa (1948–1981) yn Arsyllfa Armagh, Gogledd Iwerddon. Roedd yn daid i'r gwleidydd Cymreig Lembit Opik.
Cafodd ei addysg ym Mhrifysgol Moscow ac enilloedd ei ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Tartu, yn Estonia.
Mae'n enwog yn bennaf am ei waith ar gomedau. Yn 1932 daeth allan â'r ddamcaniaeth fod comedau yng Nghysawd yr Haul yn ymffurfio mewn cwml o lwch a mater arall y tu hwnt i gylchdro'r blaned gorrach Plwto. Enwir y cwmwl hwnnw yn Gwmwl Oort (neu Cwmwl Öpik-Oort) er ei anrhydedd.