Charlie and the Chocolate Factory (ffilm)
Oddi ar Wicipedia
Charlie and the Chocolate Factory | |
Poster y Ffilm |
|
---|---|
Cyfarwyddwr | Tim Burton |
Cynhyrchydd | Brad Grey Richard D. Zanuck |
Serennu | Johnny Depp Freddie Highmore David Kelly Helena Bonham Carter Noah Taylor Missi Pyle James Fox Deep Roy Christopher Lee |
Cwmni Cynhyrchu | Warner Bros |
Dyddiad rhyddhau | Gorffennaf 2005 |
Amser rhedeg | 115 munud |
Gwlad | Unol Daleithiau |
Iaith | Saesneg |
Gwefan swyddogol | |
Adolygiad BBC Cymru'r Byd | |
(Saesneg) Proffil IMDb |
Ffilm gan Tim Burton gyda Johnny Depp, Freddie Highmore a Helena Bonham Carter ydy Charlie and the Chocolate Factory ("Charlie a'r Ffatri Siocled") (2005). Hon yw'r ail ffilm yn seiliedig ar y nofel hwn gan Roald Dahl, ac ail ffilm Tim Burton yn seiliedig ar nofel gan Roald Dahl. Roedd yn lwyddiant mawr a chafodd ei beirniadu'n dda, gan dderbyn nomineiddiad am Wobr Academi yn 78fed Gwobrau'r Academi ar gyfer y Dyluniad Siwt Gorau.
[golygu] Actorion
- Johnny Depp - Willy Wonka
- Freddie Highmore - Charlie Bucket
- David Kelly - Taid Joe
- Helena Bonham Carter -
- Jordan Fry - Mike Teavee
- AnnaSophia Robb - Violet Beauregarde
- Philip Wiegratz - Augustus Gloop
- Julia Winter - Veruca Salt
- Franziska Troegner - Mrs Gloop
- Noah Taylor - Mr Bucket
- Missi Pyle - Scarlett Beauregarde
- James Fox - Mr Salt
- Deep Roy - Yr Oompa-Loompau
- Christopher Lee - Dr Wilbur Wonka
[golygu] Cerddoriaeth
Cyfansoddwyd y cerddoriaeth gwreiddiol gan Danny Elfman, sy'n cydweithio'n aml gyda'r cyfarwyddwr Tim Burton. Mae wedi ei seilio ogwmpas tair prif thema, thema ysgafn ar gyfer y teulu Bucket, fel arfer wedi ei gosod gyda chwythbrennau uwch; thema cyfriniol waltz gan yr adran tannau ar gyfer Willy Wonka; thema cyflym gyda'r gerddorfa llawn ar gyfer y ffactri, mae samplau synth a greodd Elfman gartref i'w clywed yn lleisiau bychan corganu'r Oompa-Loompas.
Ysgrifennodd a pherfformiodd Elfman eiriau pedair cân yn ogystal. Addaswyd geiriau'r gân Oompa-Loompa o'r llyfr gwreiddiol. Mae pob sgôr wedi ei ddylunio er mwyn disgrifio'r gwahanol archdeip. Mae cân "Wonka's Welcome Song" yn steil gwallgo a hapus parc thema, mae cân "Augustus Gloop" yn un steil Bollywood (yn dilyn awgrymiad Deep Roy); "Violet Beauregarde" yn funk 1970au, "Veruca Salt" pop bubble-gum / psychedelia yr 1960au; a "Mike Teavee" yn deyrnged i fandiau pop diweddar y 1970au megis Queen / a cherddoriaeth metel y 1980au cynnar.
- "Wonka's Welcome Song"
- "Augustus Gloop"
- "Violet Beauregarde"
- "Veruca Salt"
- "Mike Teavee"
- "Main Titles"
- "Wonka's First Shop"
- "The Indian Palace"
- "Wheels in Motion"
- "Charlie's Birthday Bar"
- "The Golden Ticket/Factory"
- "Chocolate Explorers"
- "Loompa Land"
- "The Boat Arrives"
- "The River Cruise"
- "First Candy"
- "Up and Out"
- "The River Cruise - Part 2"
- "Charlie Declines"
- "Finale"
- "End Credit Suite"
[golygu] Gwler Hefyd
- Charlie and the Chocolate Factory (llyfr)
- Willy Wonka & the Chocolate Factory - fersiwn ffilm o 1971.
Ffilmiau Tim Burton | |
---|---|
Vincent • Frankenweenie • Pee-wee's Big Adventure • Beetlejuice • Batman • Edward Scissorhands • Batman Returns • The Nightmare Before Christmas* • Ed Wood • Mars Attacks! • Cabin Boy* • Batman Forever* • James and the Giant Peach* • Sleepy Hollow • Planet of the Apes • Big Fish • Charlie and the Chocolate Factory • Corpse Bride • Sweeney Todd: The Demon Barber of Fleet Street • Alice in Wonderland • 9*
*fel cynhyrchydd yn unig |