Casablanca
Oddi ar Wicipedia
Mae Casablanca (Arabeg: Dar el-Baïda; Casa ar lafar ym Moroco) yn ddinas ar arfordir gorllewinol Moroco, tua 100km i'r de o'r brifddinas Rabat a tua 90km i'r gogledd o El Jadida. Mae ganddi boblogaeth o 3.2 miliwn (2001) sy'n ei gwneud hi'r ddinas fwyaf yn y wlad. Mae'n borthladd pwysig a chanolfan diwydiannol.
Mae'r enw Casablanca yn golygu "Tŷ gwyn".
Un o brif atyniadau Casa heddiw yw Mosg Hassan II.
[golygu] Enwogion
Magwyd y llenor Driss Chraïbi yn Casa.
[golygu] Ffilm
Er na chafodd ei saethu yn Casa, lleolir y ffilm enwog Casablanca, gyda Humphrey Bogart ac Ingrid Bergman yn y prif ranau, yn y ddinas adeg yr Ail Ryfel Byd.