See also ebooksgratis.com: no banners, no cookies, totally FREE.

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Driss Chraïbi - Wicipedia

Driss Chraïbi

Oddi ar Wicipedia

Mae Driss Chraïbi (ganwyd 15 Gorffennaf 1926) yn awdur o Forocco a aned yn El Jadida. Prif thema ei nofelau yw trefedigaeth ac maent yn cynnwys elfennau hunangofiannol amlwg.


Ar ôl treulio ei blentyndod yn Casablanca, aeth Driss Chraïbi i Baris yn 1946 er mwyn astudio cemeg a niwroseiceiatreg, cyn iddo droi i lenydda a dilyn gyrfa fel newyddiadurwr.

Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, le Passé simple, yn 1954. Ers hynny mae wedi cyhoeddi nofelau ac ysgrifau yn rheolaidd ac erbyn heddiw mae'n un o'r llenorion yn yr iaith Ffrangeg mwyaf adnabyddus o Ogledd Affrica.

Un o'i gymeriadau ffuglen mwyaf llwyddianus yw'r Arolygydd Ali, ffigwr led-gomig y mae ei anturiaethau'n cael eu defnyddio fel cyfrwng i osod allan rhagrith gwleidyddiaeth yr oes, ym Moroco a thramor (Une enquête au pays, L’Inspecteur Ali, L'Inspecteur Ali à Trinity College, L'Inspecteur Ali et la CIA).

Yn ogystal mae Chraïbi wedi sgwennu cyfres uchelgeisiol o nofelau hanesyddol, wedi'u sgwennu'n gain iawn, ar hanes Islam yn y Maghreb ac Andalucia (La Mère du printemps, Naissance à l'aube, L'homme qui venait du passé)

Mae ei nofel fer ar fywyd y Proffwyd Mohamed, L'Homme du Livre, wedi torri tir newydd yn llenyddiaeth y byd Islamaidd.

[golygu] Llyfryddiaeth

  • Le Passé simple, Gallimard, 1954
  • Les Boucs, Gallimard,1955
  • L'Âne, 1956
  • De tous les horizons, 1958
  • La Foule, 1961
  • Succession ouverte, Gallimard, 1962
  • Un Ami viendra vous voir, 1967
  • la Civilisation ma mère !..., Gallimard, 1972
  • Mort au Canada, 1975
  • Une enquête au pays, Seuil, 1999
  • La Mère du printemps, seuil, 1995
  • Naissance à l'aube, 1986
  • L’Homme du livre, 1995
  • L’Inspecteur Ali, Gallimard
  • L'Inspecteur Ali à Trinity College, Denoël, 1995
  • L'Inspecteur Ali et la CIA, Denoël, 1996
  • Lu, vu, entendu, Denoël, 1998
  • Le Monde à côté, Denoël, 2001
  • L'homme qui venait du passé, Denoël, 2004

[golygu] Dolen allanol


aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -