Belasitsa
Oddi ar Wicipedia
Cadwyn mynyddoedd yn ne-ddwyrain Ewrop yw Belasitsa (Bwlgareg a Macedoneg Беласица / Belasitsa, Groeg Μπέλες / Beles neu Κερκίνη / Kerkini), yn rhedeg drwy Bwlgaria, Macedonia a Gwlad Groeg. Mae'r gadwyn tua 60km o hyd a rhwng 7km a 9km o led. Y brig uchaf yw Mynydd Radomir ym Mwlgaria, a chanddo uchder o 2,029m. Mae'r ardal yn gartef i safle Brwydr Belasitsa neu Kleidion, y frwydr benderfynol yng nghwymp Teyrnas Gyntaf Bwlgaria ym 1014.