See also ebooksgratis.com: no banners, no cookies, totally FREE.

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Afon Indus - Wicipedia

Afon Indus

Oddi ar Wicipedia

Delwedd lloeren o fasn Afon Indus
Delwedd lloeren o fasn Afon Indus
Gweler hefyd Indus (tudalen gwahaniaethu).

Afon Indus (Wrdw: سندھ Sindh; Sindhi: سنڌو Sindh; Sanscrit a Hindi: सिन्धु Sindhu; Perseg: Hinduحندو ; Pashto: Abasin ّآباسن "Tad afonydd"; Tibeteg: Sengge Chu "Afon y Llew"; Tsieinëeg: 印度 Yìndù; Groeg: Ινδους Indus) yw'r afon hiraf a phwysicaf ym Mhacistan ac un o'r mwyaf ar is-gyfandir India, sydd wedi rhoi i India ei henw.

Afon Indus ger Skardu yn y Karakoram
Afon Indus ger Skardu yn y Karakoram

Mae'n tarddu ar lwyfandir Tibet ger Llyn Mansarovar, ac yn rhedeg i gyfeiriad y de trwy ardaloedd Ladakh a Kashmir yn yr Himalaya a gogledd a chanolbarth Pacistan, i aberu ym Môr Arabia ger dinas Karachi, prif borthladd Pacistan. Hyd yr afon yw 3200 km (2000 milltir). Mae hi'n dal dŵr o ardal o tua 1,165,000 km sgwar (450,000 milltir sgwar). Gyda'r afonydd mawr Chenab, Ravi, Sutlej, Jhelum, Beas a'r Afon Sarasvati ddarfodedig, mae afon Indus yn ffurfio'r delta Sapta Sindhu ("Saith Afon") yn nhalaith Sindh ym Mhacistan. Mae ugain o afonydd yn llifo iddi.

Mae afon Indus yn chwarae rhan hanfodol yn economi Pacistan - yn arbennig yn nhalaith Bacistanaidd Punjab, ardal amaethyddol bwysicaf y wlad honno, a Sindh. Yn ogystal, afon Indus yw prif ffyhonnell dŵr yfed ym Mhacistan.

Mae afon Indus yn tarddu yn Nhibet; mae'n cychwyn yn nghyflif afonydd Sengge a Gar sy'n llifo o gadwynau Nganglong Kangri a Gangdise Shan yn y wlad honno. Mae hi'n llifo i'r gogledd-orllewin trwy Ladakh-Baltistan i afon Gilgit, ychydig i'r de o'r Karakoram. Yma mae afonydd llai Shyok, Shigar a Gilgit yn cludo dŵr o rewlifau'r mynyddoedd mawr i'r afon. Ger Nanga Parbat mae'n rhedeg trwy yddfau cul tua 4500 - 5200 m (15,000-17,000 troedfedd) i fyny. Mae'n cylchu'n araf i'r de, ac yn dod allan o'r bryniau rhwng Peshawar a Rawalpindi yn ngogledd Pacistan.

Mae'n llifo trwy Hazara, ac yn cael ei dal tu ôl i gronfa yn Tarbela. Mae Afon Kabul yn llifo iddi ger Attock. Am weddill ei daith i'r môr mae'n croesi wastadiroedd Punjab a Sind, gan arafu ei llif yn sylweddol. Mae afon Panjnad yn ymuno ym Mithankot. Ar ôl llifo trwy Jamshoro, mae'n gorffen mewn delta mawr i'r dwyrain o Thatta.

[golygu] Gweler hefyd


aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -