Afon Biobío
Oddi ar Wicipedia
Afon yn Chile, De America, yw Afon Bio-Bio. Mae'n tarddu yn yr Andes ac yn llifo ar gwrs gogledd-orllewinol yn bennaf trwy ganolbarth Chile i aberu yn y Cefnfor Tawel ger dinas Concepcíon. Ei hyd yw tua 390 km (240 milltir), sy'n ei gwneud hi'r afon ail fwyaf yn y wlad honno.